Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 5
Gorffennaf 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(10 munud)
(20 munud)
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i roi i flaenoriaethu trawiadau'r galon yn y categori ymateb ambiwlans mwyaf brys o wyth munud, yn sgil y datganiad a gyhoeddodd ar 29 Mehefin yn nodi bod gobaith claf o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn gostwng 10 y cant bob munud? TYNNWYD YN ÔL
I Brif Weinidog Cymru:
Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o bapur polisi Llywodraeth y DU, 'Safeguarding the position of EU citizens in the UK and UK nationals in the EU', a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf?
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer 'Y Cymro', o ystyried yr ansicrwydd presennol am ei ddyfodol tymor hir?
(5 munud)
(5 munud)
NDM6361 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle David J Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).
NDM6364 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mark Reckless (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).
(30 munud)
NDM6349 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig am fil i gefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y bil hwn fyddai:
a) darparu canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer darparu cefnogaeth a hyblygrwydd priodol i ofalwyr ifanc ymgymryd â'u cyfrifoldebau gofal yn ystod oriau ysgol ac ar ôl oriau ysgol;
b) darparu canllawiau i ysgolion i weithio gyda gofalwyr ifanc er mwyn darparu llwybrau hyblyg i sicrhau eu bod yn parhau mewn addysg;
c) caniatáu i ofalwyr ifanc gasglu presgripsiynau ar ran y rhai sydd yn eu gofal, a hynny gyda Cherdyn Gofalwr Ifanc neu ddull arall; a
d) sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sefydliadau priodol i gyflwyno gwasanaeth lliniarol a chefnogaeth i ofalwyr ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
(60 munud)
NDM6354 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio o ran gwella ffyniant cymunedau ledled Cymru ar gyfer y dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu ennyn hyder buddsoddwyr ar gyfer prosiectau adfywio.
3. Yn gresynu at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phrosiect Cylchffordd Cymru ac yn credu y gallai hyn gael effaith negyddol ar fuddsoddiad posibl ar gyfer prosiectau adfywio yng Nghymru yn y dyfodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ymyriadau fel datblygu seilwaith, creu swyddi o safon uchel yn ogystal â sgiliau a chyflogadwyedd er mwyn gwella ffyniant cymunedau ar draws Cymru at y dyfodol.
2. Yn croesawu sefydlu'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, sy'n anelu at sicrhau adfywio effeithiol ar draws y rhanbarth ynghyd â seilwaith cadarn a chysylltiol; gwell mynediad at swyddi o safon uchel a datblygu sgiliau.
3. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £100m dros ddeng mlynedd mewn Parc Busnes Technoleg Fodurol yng Nglynebwy er mwyn hybu twf economaidd ar draws Blaenau'r Cymoedd.
4. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth fwrw ymlaen â Bargen Dwf Gogledd Cymru er mwyn hybu twf economaidd ar draws ffiniau.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â phob parti perthnasol er mwyn archwilio atebion posibl i'r materion y cyfeirir atynt yn ei datganiad ar Gylchffordd Cymru ar 27 Mehefin 2017 i ennyn hyder buddsoddwyr y dyfodol.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sefydlu ymchwiliad annibynnol llawn i'r ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â phrosiect Cylchffordd Cymru.
(60 munud)
NDM6356 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
2. Yn nodi'r adroddiad ‘Cyrraedd y Miliwn’ gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn glir rhai o'r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.
3. Yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i:
a) gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg;
b) sicrhau bod ystyriaethau i'r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a'r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;
c) gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg ac ehangu safonau'r Gymraeg i’r sector breifat gan gynnwys y sector delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;
d) sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo'r iaith ym meysydd addysg, y gymuned a'r economi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori'r haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.
Yn cydnabod y camau sydd eisoes wedi'u cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.
Yn croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y bydd mynd yn groes i farn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar unrhyw obaith fydd gan strategaeth Llywodraeth Cymru o lwyddo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau:
a) bod unrhyw newidiadau i addysg bresennol cyfnodau allweddol 1 i 5 a darpariaeth gofal plant yn cynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
i) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post; a
ii) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; a
b) na roddir blaenoriaeth i farn trydydd parti, asiantau na chomisiynwyr, gan gynnwys y rhai sy'n awgrymu eu bod yn cynnig cyngor arbenigol ar y ddarpariaeth Gymraeg, dros ddymuniadau trigolion lleol a rhieni.
[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu 3(b) a rhoi yn ei le:
ystyried y ffordd orau o hyrwyddo caffael a defnyddio sgiliau Cymraeg fel rhan annatod o'i strategaeth economaidd.
Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu 3(c) a rhoi yn ei le:
adolygu rôl Comisiynydd y Gymraeg a sicrhau bod y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ôl 3(c) ac ailrifo yn unol â hynny:
ystyried diben ac effeithiolrwydd safonau'r Gymraeg cyn unrhyw gynnig i ehangu eu cymhwyso i'r sector preifat.
Gwelliant 6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu 3(d) a rhoi yn ei le:
mabwysiadu model newydd, y tu allan i'r llywodraeth, ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym meysydd addysg, y gymuned a'r economi.
(30 munud)
NDM6355 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Trosedd casineb - a yw ar gynnydd yng Nghymru?
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Gorffennaf 2017